Gwasanaethau’r Cyngor

Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn un o 34 cyngor tref a chymuned yn Sir y Fflint, yr awdurdod unedol newydd a grëwyd ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996.

Gwasanaethau

  • Rheoli a chynnal Mynwent y Dref a gweithgareddau claddu yn y dref
  • Darparu Rheolwr Canol y Dref i hyrwyddo gweithio ar y cyd er mwyn gwneud y gorau o allu’r Dref o ran siopau a thwristiaeth a sicrhau bod yno amgylchedd gwahoddgar, deniadol a diogel
  • Rhoi cymorth ariannol i grwpiau lleol er lles trigolion gan gynnwys Canolfan Cyngor ar Bopeth, Cymdeithas Gymunedol Daniel Owen
  • Cynhyrchu adroddiad blynyddol
  • Darparu ystafelloedd ar log i grwpiau lleol neu’r rhai sy’n darparu gwasanaethau i drigolion lleol ac ymwelwyr
  • Darparu gwefan Cyngor y Dref
  • Darparu basgedi crog ac arddangosfeydd blodeuol eraill yn y dref a hyrwyddo cystadleuaeth ‘Yr Wyddgrug yn ei Blodau’. Cysylltwch â ni i ofyn am ffurflen gais
  • Darparu coeden Nadolig y Dref a goleuadau dathlu dros y Nadolig ac ymwneud ag achlysur cynnau’r goleuadau
  • Ymgynghori ar holl faterion cynllunio sy’n effeithio ar y Dref, gan gynnwys y Cynllun Datblygu Lleol a datblygiadau a allai gael effaith ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn y Dref
  • Rhoi cyfraniadau ariannol tuag at gyllid cyfatebol cynlluniau ffyrdd ac eraill sy’n gwella ansawdd bywyd trigolion
  • Rhoi cyfraniadau ariannol tuag at reoli a chynnal system teledu cylch cyfyng y Dref a’i gwella yn y dyfodol
  • Pwyso ar asiantaethau perthnasol a chyrff eraill ynghylch materion sy’n bwysig i’r Dref a’i thrigolion ac ymwelwyr
  • Rhoi cyfraniad ariannol tuag at reoli a chynnal y Ganolfan Groeso yn y Dref
  • Rhoi cymorth ariannol i Gynlluniau Chwarae’r Haf sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor Sir
  • Rhoi cymorth ariannol i’r Clwb Chwarae Antur Gwm Swigod, Parkfields
  • Rhoi cymorth ariannol i Fand Cyngerdd Tref yr Wyddgrug
  • Rheoli Neuadd y Dref, gweinyddu a gwasanaethau ariannol