Cynllun Gwobrau Cymunedol 2025
Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn gofyn i drigolion y dref enwebu unigolion ar gyfer Cynllun Gwobrau Cymunedol yr Wyddgrug 2025. Mae’r cynllun yn rhoi cydnabyddiaeth i gyfraniad ac ymroddiad y grwpiau neu’r unigolion hynny sy’n byw neu sy’n gweithio yn Nhref yr Wyddgrug neu sy’n rhoi cymorth i drigolion y dref.
Rydych chi’n gallu cyflwyno faint fynnwch chi o enwebiadau, a gallwch enwebu rhywun ym mhob un o’r pum categori neu un enwebiad yn unig. Os hoffech enwebu mwy nag un unigolyn/grŵp yn yr un categori, yna bydd angen ichi gyflwyno ffurflen ychwanegol.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Mercher 3 Chwefror 2025
Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio Cyngor Tref yr Wyddgrug ar 01352 758532 neu anfon e-bost at events@moldtowncouncil.org.uk
Byddwch cystal â rhoi’ch enwebiadau isod, gan gynnwys manylion cysylltu’r unigolyn yr ydych yn ei enwebu.
Enwebiadau
Ar-lein -
Saesneg https://tinyurl.com/3v4hdr3t
Cymraeg https://tinyurl.com/nb8zabm4
Mae pum categori ar gyfer yr enwebiadau. Byddwch cystal â rhoi manylion yr unigolyn yr ydych yn ei enwebu yn y categori priodol. Rhaid ichi gynnwys enw’r unigolyn/busnes/grŵp a rhoi’r rheswm pam yr ydych yn eu henwebu. Os ydych chi’n gwybod beth yw eu manylion cysylltu, byddwch cystal â’u cynnwys; os ydynt yn cael eu dewis gan ein panel beirniadu, yna bydd angen inni gysylltu â hwy. Mae PAWB sy’n cael eu henwebu yn gorfod bod yn unigolyn/unigolion sy’n byw neu sy’n gweithio yn Nhref yr Wyddgrug neu sy’n rhoi cymorth i drigolion yr Wyddgrug.
Gwobr am wirfoddoli - Ar gyfer unigolion neu grwpiau dan 25 oed sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w cymuned trwy wirfoddoli
Gwobr am wirfoddoli - Ar gyfer unigolion neu grwpiau 25 oed a hŷn sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w cymuned trwy wirfoddoli.
Busnes y Flwyddyn - Busnes, boed yn fanwerthwr, stondinwr marchnad neu ddarparwr gwasanaeth sydd wedi ymrwymo i fod o wasanaeth i’w gymuned, trwy wneud gwaith elusennol neu drwy’r gwasanaeth eithriadol y mae o’n ei roi.
Gwobr Llwyddiant mewn Chwaraeon - Mae’r wobr yn cael ei rhoi i’r unigolyn neu’r grŵp sydd wedi cyflawni camp ragorol, dangos gallu rhagorol neu annog pobl eraill i gymryd rhan mewn gweithgaredd ym myd chwaraeon. Fel unigolion, efallai y byddant wedi rhoi hyfforddiant, ymarfer neu gymorth gweinyddol i glwb neu grŵp chwaraeon.
Gwobr Prosiect Cymunedol/Digwyddiad y Flwyddyn - Prosiect/Digwyddiad yw hwn sydd wedi cael llwyddiant yn y gymuned. Rhoi cefnogaeth i bobl leol boed hynny fel grŵp neu un ag un - fe allai fod yn sefydliad trydydd sector â phrosiectau sydd wedi cael effaith hirbarhaol ar y gymuned, fel digwyddiad cymunedol efallai, neu ddigwyddiad codi arian at elusen neu brosiect amgylcheddol sydd wedi bod o fudd i’r gymuned gan fod pobl wedi dysgu sgiliau newydd ac ati.
Diolch ichi am eich enwebiad(au). Bydd yr holl enwebiadau yr ydym yn eu derbyn yn cael eu beirniadu gan Bwyllgor Gwobrau Cymunedol Cyngor Tref yr Wyddgrug, a bydd yr enillwyr yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn Seremoni Gwobrau ar-lein. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu faterion eraill o bwys ichi, mae croeso ichi ffonio Cyngor Tref yr Wyddgrug ar 01352 758532 neu anfon e-bost at events@moldtowncouncil.org.uk