Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018
Bydd y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) yn disodli Deddf Diogelu Data a bydd yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig o 25ain Mai 2018 ymlaen. Mae RhDDC yn cyflwyno nifer o ofynion newydd, gan gynnwys newidiadau i hysbysiadau preifatrwydd, rhoi caniatâd a cheisiadau i weld data personol. Caiff y gofynion hyn eu crisialu mewn Mesur Diogelu Data newydd sydd ar ei ffordd drwy’r Senedd ar hyn o bryd.
Mae’r Mesur Diogelu Data i’w weld ar ei ffurf bresennol trwy ddilyn y ddolen https://publications.parliament.uk/pa/bills/lbill/2017-2019/0066/lbill_2017-20190066_en_1.htm
Mae cyfrifoldeb ar Gyngor Tref yr Wyddgrug dan Ddeddf Diogelu Data 2018 i ddal, cael, cofnodi, defnyddio a chadw holl ddata personol perthnasol i unigolyn adnabyddadwy mewn ffordd ddiogel a chydgyfrinachol.
Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn llywodraethu trin gwybodaeth bersonol sy’n adnabod pobl fyw’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ac mae’n cwmpasu gwybodaeth ar bapur a chyfrifiadurol. Mae’n creu peirianwaith sy’n rhoi rhywfaint o reolaeth i unigolion y caiff data eu dal amdanynt ("gwrthrychau’r data") dros sut gaiff y data eu trin.
Mae Cyngor y Dref yn ymroddi i sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn ffordd ddiogel a chydgyfrinachol yn unol â’i rwymedigaethau dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a chanllawiau proffesiynol. Bydd Cyngor y Dref yn defnyddio’r holl ddulliau priodol ac angenrheidiol sydd ganddo i gydymffurfio â Deddf Diogelu Data a chanllawiau cysylltiedig.
I gael rhagor o wybodaeth am bolisi, trefnau, gweithdrefn toriad data a Cheisiadau Mynediad Unigolion Cyngor Tref yr Wyddgrug, cyfeiriwch at ddogfennau strategol Cyngor y Dref ar y wefan hon.