Ddrafft o Gynllyn Tref yr Wyddgrug
CYNLLUN TREF
YR WYDDGRUG 2017-2030
Mewn cyfarfod
arbennig o Gyngor Tref yr Wyddgrug ddydd Mercher 15fed Mawrth,
cymeradwywyd a mabwysiadwyd Cynllun y Dref gan yr aelodau. Hefyd yn bresennol
yn y cyfarfod oedd Mr John Reynolds, Cadeirydd Fforwm Busnes yr Wyddgrug a
chynrychiolydd y Grŵp Llywio gwreiddiol. Croesawyd y Cynllun rhagorol sy’n
cwmpasu popeth oedd yn pryderu Cyngor y Dref a’r gymuned.
Ers
ffurfio’r grŵp llywio am y tro cyntaf yn ôl ar ddechrau 2015, roedd Cyngor Tref
yr Wyddgrug yn awyddus i gefnogi cynhyrchu Cynllun Tref yr Wyddgrug. Teimlai
Cyngor y Dref y byddai’n rhoi cyfle rhagorol i’r gymuned gyfan fynegi barn
ynghylch sut ddylai’r Wyddgrug ddatblygu yn y dyfodol.
Mae Cynllun y Dref ar ei ffurf orffenedig yn disgrifio sut fyddai pobl sy’n byw
ac yn gweithio yma’n hoffi i’r gymuned ddatblygu, mae’n nodi cyfleusterau a
gwasanaethau allweddol ac mae’n cyflwyno’r materion sydd angen sylw os yw’r
dref i gael ei gwella i holl drigolion yn ôl y blaenoriaethau a ddewiswyd. Bydd
y Cynllun yn offeryn defnyddiol i Gyngor y Dref oherwydd ei fod yn cynrychioli
llais cyfunol ein hetholwyr, a bydd yn cael ei adolygu’n gyfnodol i sicrhau ei
fod yn aros yn berthnasol. Bydd y Cynllun yn cael ei ddefnyddio hefyd i
ddylanwadu ar Gynllun Datblygu Lleol eginol Cyngor Sir y Fflint.
Hoffai Cyngor y Dref a’r Grŵp
Llywio ddiolch i’r holl randdeiliaid a dreuliodd amser yn ymateb yn ystod yr
achlysuron ymgynghori. Mae gwybodaeth am yr ymateb a gafwyd ac ymatebion y Grŵp
Llywio, ynghyd â Chynllun y Dref ar ei ffurf derfynol i’w cael yma. Fel
arall, mae modd gweld copïau o’r Cynllun yn y mannau canlynol:
Cyngor Tref yr Wyddgrug,
Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug
Y Llyfrgell, Sgwâr
Daniel Owen, Yr Wyddgrug
Cyngor Sir y
Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug
Cynllyn Tref yr Wyddgrug 2017-2030
Clerc y Dref, Cyngor Tref yr Wyddgrug, Neuadd y Dref,
Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, CH7 1AB neu trwy e-bost i townclerk@
moldtowncouncil.org.uk